Psalms 47

Y Brenin sy'n rheoli popeth

I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!
Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
2Mae'r Arglwydd Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu,
ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni;
ni sy'n eu rheoli nhw.
4Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –
tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo.

 Saib
5Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen.
Aeth yr Arglwydd i fyny, a'r corn hwrdd
47:5 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn seinio!
6Canwch fawl i Dduw, canwch!
Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
7Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;
Canwch gân hyfryd iddo!
8Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd!
Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd!
9Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu
gyda phobl Duw Abraham.
Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr
47:9 lywodraethwyr Hebraeg, “tariannau”, yn cynrychioli'r llywodraethwyr oedd i amddiffyn y bobl.
y byd;
Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd!
Copyright information for CYM